Gweithgareddau'r Tymor:
Sadwrn, Ebrill 17
Craig y Benglog a'r cyffiniau (arweinydd Ieuan Bryn)
Cyfarfod wrth Neuadd y Pentref, Rhyd-y-main, SH 805 221 am 10:15 neu gweler 
Sadwrn Mai 1
Parc Glynllifon a'r cyffiniau (arweinydd Sian Jones)
Cyfarfod ym maes parcio Parc Glynllifon, SH 453 555 am 10:30 neu gweler 
Sadwrn Mai 15
Coedydd Parc Padarn (arweinydd Twm Elias)
Cyfarfod ym maes parcio'r Amgueddfa Lechi, Llanberis, SH 585 603 am 10:30 neu
gweler 
Sadwrn Mehefin 19
Ynys Lawd a Mynydd Tw^r (arweinydd Huw Dafydd)
Cyfarfod ym maes parcio'r RSPB, Ynys Lawd, SH 210 818 am 10:30 neu gweler 
_______________________________________________________________________
Gweithdai Dathlu Cob 200
Mai 18, Mehefin 1, Mehefin 15, Mehefin 29 a Gorffennaf 13
Gweithdai creu Taflen Wybodaeth am y Cob ym Mhorthmadog dan arweiniad Twm Elias.
Cyfarfod ym Mhlas Tan y Bwlch am 6:30

Ar fyr rybudd iawn y galwyd pobol at ei gilydd i gynnal gweithdy i drafod ein cyfraniad ni tuag at ddathlu 200 mlwyddiant y Cob, Porthmadog yn 2011. Bu'n syniad gennym i ddarparu taflen neu lyfryn ar adar y Cob a'r cyffiniau ers rhai blynyddoedd ac roedd y cynnig o nawdd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr i wneud hynny yn un rhy dda i'w wrthod!
Felly, er mai rhyw fythefnos ynghynt yr oeddem wedi deall fod arian ar gael at gynnal y gweithdy dyma fynd amdani! Cafwyd ymateb da iawn - daeth 11 at ei gilydd (dan arweinyddiaeth Twm Elias a Brian Paul) ac roedd o leia 9 o ymddiheuriadau.
Cychwyn y dydd drwy gyfarfod ym Mhorthmadog a mynd rownd y Cob Crwn a rhywfaint ar hyd y Cob ei hun i nodi pa lecynnau y dylsem dynnu sylw atynt yn y daflen arfaethiedig. Roedd rhai yn ddigon lwcus i weld gwennol y glennydd yn gwibio'n gyflym dros Ynys Tywyn i gyfeiriad y gogledd. Roedd hynny’n arwydd da iawn i'r diwrnod.
Ymlaen a ni wedyn i Blas Tan y Bwlch lle cafwyd trafodaeth frwd ar y posibiliadau a chael clywed gan Selwyn Griffiths, Cyngor Tref Porthmadog ac aelod o Cob 200, am be oedd ar y gweill ar gyfer y dathliadau yn 2011.
Wedi edrych ar nifer o wahanol daflenni i gael syniad o be fyddai'n bosib, a thrafod y costau, y grantiau posib a phwy fyddai'n cyhoeddi ayyb, penderfynwyd canolbwyntio ar ddau fath o gyhoeddiad:
- Taflen liwgar fyddai ar gael am ddim mewn siopau a llefydd eraill yn yr ardal.
Hon i gynnwys map, golygfeydd, a lluniau o adar y gellir eu gweld yma drwy'r flwyddyn.
- Llyfryn lliwgar yn manylu ar gynefinoedd ac adar ac yn son am yr adar prin a welwyd yma dros yr oddeutu 10 mlynedd ddiwethaf.
Bydd angen tâl am hwn ac fe'i bwriedir ar gyfer adarwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn byd natur yn bennaf.
Cynhelir gweithdai eraill dros y misoedd nesa i fynd a'r maen i'r wal – edrychwch dan ‘Gweithgareddau’ ar y dudalen gefn. Croeso i chi ymuno â ni ac i gynnig syniadau. Dyma gyfle gwych ichi hogi'ch sgiliau; dysgu am sut mae'r prosesau cynhyrchu a chyhoeddi yn gweithio a chael hwyl a boddhad drwy gyfrannu at rhywbeth gwerth chweil. |