|
|
Chwilotwch drwy ein gwefan neu drwy ôl-rifynnau o'n cylchgrawn |
A oes gennych chi GWESTIWN? Os oes gennych unrhyw gwestiwn yr hoffech i ni geisio ei ateb cliciwch YMA er mwyn anfon ebost i ni. Fe fydd un o'n tim yn gwneud ei orau i'ch ateb ac fe roddir yr ateb ar y dudalen hol er mwyn i eraill gael ei weld. ---------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Dyma'r cwestiwn diweddaraf ... a dderbyniwyd oddi wrth Einir Thomas ac a atebwyd gan Twm Elias - Ers blynyddoedd bellach mae ’na robin goch a llwyd y gwrych yn dod i’r ardd – mwy nag un, mae’n debyg – a ’dan ni wedi sylwi eu bod yn ymddwyn braidd yn od tuag at ei gilydd. Pan mae’r ddau yn yr ardd efo’i gilydd, mae’r robin goch yn hel y llall i ffwrdd yn ffyrnig, ond dydy o’n poeni dim am yr adar eraill – mae adar y to a ji-bincod ac ati’n cael llonydd perffaith. Tybed ’dach chi’n gwybod pam mae hyn yn digwydd? ---------------------------------------------------------------------------------------------------------------- ATEB: Mae ymddygiad cymdeithasegol adar yn ddifyn iawn (neu anghymdeithas[eg]ol yn yr achos hwn!). Mae'r hen robin yn gweld bygythiad mewn unrhyw aderyn arall sy'n cystadlu'n uniongyrchol ag o am adnoddau, sef bwyd fel arfer. Dyma'r sefyllfa yn fan hyn. Mae'r llwyd y gwrych yn greadur y cysgodion ac yn dueddol o hel ei damaid oddiar lawr, fel mae'r robin hefyd - anaml iawn y gwelwch chi'r un o'r ddau ar y bwrdd adar neu yn hongian oddiar yr hosan gnau. Yn hytrach, eu lle arferol i fwydo ydi oddiar lawr o gwmpas troed y bwrdd adar. Yno mae nhw'n cael digon o friwsion bwyd a gollwyd gan fwytawyr bler fel y titws, ji bincod ac adar to ayyb. Dydi'r ji binc ddim yn fygythiad - mae'n helpu'r robin gael bwyd drwy f'yta'n fler. Ond yr hen lwyd y gwrych 'na, druan, yn gystaleuydd ac felly'n cael ei erlid!
|