|
|
Ted Breeze Jones - 'Dyn yr Adar' Yr oedd Ted Breeze Jones yn adarydd a ffotograffydd o fri, yn ddarlithydd graenus ac yn awdur toreithiog. Yr oedd yn un o naturiaethwyr amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif a chafodd ei waith lawer iawn o sylw yn y cyfryngau - yr oedd yn aelod o banel 'Seiat Byd Natur' Radio Cymru am nifer mawr o flynyddoedd ac fe wnaeth nifer o raglenni teledu. 'Roedd yn ddylanwadol yn ei filltir sgwâr, ardal Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd, ond yn sgil ei ddarllediadau radio poblogaidd, teimlid ei ddylanwad ledled Cymru. Dyn tawel a diymhongar iawn oedd Ted. Yn dilyn ei farwolaeth, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd a phenderfynu sefydlu cymdeithas er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur. Dyna sut y sefydlwyd Cymdeithas Ted Breeze Jones. Ted Breeze Jones: ________________________________________________________________________________ Cliciwch yma i ddarllen erthygl amdano a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn tua 1954 |
Ted Breeze Jones |