CYMDEITHAS

TED BREEZE JONES


Ar gyfer eleni eto, ein tâl aelodaeth yw £8 i oedolyn
neu £10 ar gyfer teulu cyfan

Gallwch argraffu ffurflen ar gyfer taliad uniongyrchol o'ch banc drwy glicio YMA. Ar ôl ei chwblhau, postiwch hi i Brian Paul (cyfeiriad isod). Bydd gwneud hyn yn golygu na wnewch anghofio adnewyddu ymhen y flwyddyn.

Gallwch hefyd ymaelodi drwy gysylltu â'n Trysorydd - gofynnwch iddo am ffurflen neu anfonwch siec iddo (taladwy i "Gymdeithas Ted Breeze Jones")

Mr D Brian Paul
Ty^ Fry
Penrhyndeudraeth

Gwynedd
LL48 6RT
01766 770 500

Manteision ymaelodi:

  • Tri rhifyn o'n cylchgrawn LLYGAD BARCUD drwy'r post bob blwyddyn
  • Gostyngiad o 15% gan Cotswold Outdoor, Betws y Coed
  • Gostyngiad o 15% ar nwyddau Gelert a 10% ar nwyddau eraill yn Gelert, Porthmadog
  • Gostyngiad o 10% yn siop lyfrau Browsers, Porthmadog
  • Gostyngiad o 10% yn siop Fifth Element, Porthmadog
  • Gostyngiad o 10% yn siop Bear Print, Porthmadog
  • Gostyngiad o 10% yn siop Nigel Hughes (ar wahan i gamerâu digidol), Porthmadog
  • Gostyngiad o 10% ar wydrau a nwyddau eraill yn Siop Arwyn Edwards, Penrhyndeudraeth